Roedd llacio’r cyfyngiadau symud ym mis Ebrill wedi helpu economi’r Deyrnas Unedig i dyfu ar ei chyfradd gyflymaf ers mis Gorffennaf 2020 wrth i bobol ddychwelyd i siopau’r stryd fawr, yn ôl data newydd.
Dywedodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) fod cynnyrch mewnwladol crynswth (GDP) – mesur o dwf economaidd – wedi cynyddu 2.3% ym mis Ebrill er ei fod yn parhau’n is na’r lefelau cyn y pandemig.
Ym mis Gorffennaf y llynedd tyfodd yr economi 7.3%.
Byddai wedi bod yn uwch oni bai am arafu yn y sector adeiladu o’i gymharu â thwf cryf ym mis Mawrth.
Gyrrodd manwerthwyr lawer o’r twf wrth iddynt groesawu cwsmeriaid yn ôl i siopau, gyda siopau dillad yn gweld hwb o 69.4%.
Y twf cyffredinol yn y sector gwasanaethau oedd 3.4%, er ei fod yn parhau i fod 4.1% yn is na lefelau cyn pandemig ym mis Chwefror 2020.
Roedd hyn yn cynnwys bwytai, tafarndai a chaffis lle gallai cwsmeriaid fwyta ac yfed yn yr awyr agored eto, gan weld cynnydd o 39% mewn twf.
“Dechrau adfer”
Manteisiodd pobol hefyd ar y gallu i deithio ar draws y wlad eto, gan helpu parciau carafanau a gwestai i dyfu 68.6%, tra bod trinwyr gwallt a gwasanaethau personol eraill wedi tyfu 63.5%.
Dywedodd y Canghellor Rishi Sunak: “Mae ffigyrau heddiw yn arwydd addawol bod ein heconomi yn dechrau adfer.
“Gyda mwy na miliwn o bobol yn dod oddi ar ffyrlo ar draws mis Mawrth a mis Ebrill a nifer y gweithwyr mewn gwaith yn codi, mae’n amlwg bod ein Cynllun Swyddi yn gweithio.
“Ond rwy’n gwybod bod yna bobl sydd dal angen ein cefnogaeth, a dyna pam mae’r cynllun ffyrlo ar waith tan fis Medi i ddiogelu cymaint o swyddi â phosibl”.