Mae nifer y teithwyr ym maes awyr Heathrow 90% yn is na’r lefelau cyn y pandemig.

Dim ond 675,000 o bobl oedd wedi teithio drwy’r maes awyr yng ngorllewin Llundain fis diwethaf, o’i gymharu â 6,769,000 ym mis Mai 2019.

Fel arfer, Heathrow yw maes awyr prysuraf y Deyrnas Unedig.

Cyfle i ddangos “arweinyddiaeth fyd-eang”

Dywedodd prif weithredwr y maes awyr John Holland-Kaye bod cyfle i arweinwyr yn uwch-gynhadledd yr G7, sy’n dechrau yng Nghernyw heddiw (Mehefin 11), ddangos “arweinyddiaeth fyd-eang”.

“Gyda’r G7 yn cychwyn heddiw, mae gan weinidogion gyfle i roi hwb i’r adferiad gwyrdd byd-eang trwy gytuno sut i ailddechrau teithiau rhyngwladol yn ddiogel a gosod mandad ar gyfer tanwydd hedfan cynaliadwy a fydd yn datgarboneiddio hedfan,” meddai.