Mae cynlluniau gwario Llywodraeth Prydain “ar fin achosi niwed difrifol” i heddluoedd Prydain, yn ôl y Blaid Lafur.

Maen nhw wedi rhybuddio bod “risg i ddiogelwch y cyhoedd” os nad yw gweinidogion yn gwneud tro pedol.

Y bwriad ar hyn o bryd yw torri gwariant y Swyddfa Gartref o 25%-40% dros gyfnod o bum mlynedd sydd, yn ôl Andy Burnham yn cyfateb i 22,000 o blismyn mewn termau real.

Mae Andy Burnham wedi dweud y gallai’r cynlluniau “ddadsefydlogi” dulliau plismona cymunedol.

Ychwanegodd nad oes tystiolaeth i gefnogi’r penderfyniad i gwtogi ar lefelau plismona tebyg i’r 1970au – a bod troseddau treisgar, ymosodiadau â chyllyll ac ymosodiadau rhyw ar gynnydd.

Ar ddechrau dadl yr wrthblaid am blismona, dywedodd Burnham fod ei blaid wedi galw am y ddadl er mwyn “herio’r llywodraeth ar yr hyn ry’n ni’n teimlo sy’n gambl ddiofal gyda diogelwch y cyhoedd”, i “roi llais” i’r aflonyddwch ac i gael “dadl go iawn am ddyfodol plismona”.

Ychwanegodd nad yw’n “cofio’r cyhoedd yn cael gwybod am y cynlluniau hyn i rwygo plismona cymunedol yn ddarnau cyn iddyn nhw gyrraedd y bleidlais”.

Rhybuddiodd y gallai’r cynlluniau arwain at dynnu miloedd o blismyn oddi ar y strydoedd ym mhob cwr o wledydd Prydain.

“Dydw i ddim yn dweud nad oes lle i doriadau… ond fe ddaw i’r pwynt lle, os ydych chi’n mynd y tu hwnt i hynny, rydych chi’n dechrau tynnu gwead ein gwasanaeth heddlu’n ddarnau gan greu risg i’n cymunedau lleol a dydw i ddim yn barod i weld hynny.”

Tarodd yr Ysgrifennydd Cartref, Theresa May yn ôl gan ddweud nad yw’r Blaid Lafur wedi dysgu o’u camgymeriadau ers iddyn nhw wrthwynebu toriadau yn ystod y llywodraeth glymblaid ddiwethaf.

Ond dywedodd fod torcyfraith wedi gostwng o 25% ers hynny, a bod cymunedau Cymru a Lloegr yn fwy diogel nag erioed o’r blaen.

Yn ystod y ddadl, dywedodd yr Aelod Seneddol Ceidwadol dros Ddwyrain Harrow, Bob Blackman fod y toriadau’n debygol o effeithio fwyaf ar gymunedau cefn gwlad.