Mae dyn wedi cael ei gyhuddo o ddynladdiad canwr a hyrwyddwr cerddoriaeth drwy esgeulustod.

Bu farw Trevor Grills, canwr gyda’r grŵp sianti ‘Fisherman’s Friends’ a’r hyrwyddwr cerddorol Paul McMullen ar ôl i ddrws llwyfan eu taro yn 2013.

Mae David Naylor o Sir Amwythig wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth yn dilyn ymchwiliad gan yr heddlu a’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch.

Cafodd Trevor Grills, 54, ei daro gan ddrws mawr mewn theatr yn Guildford ychydig oriau cyn cyngerdd ar Chwefror 9.

Cafodd driniaeth yn yr ysbyty am anafiadau i’w ben, ond fe fu farw ddeuddydd yn ddiweddarach.

Bu farw Paul McMullen yn y fan a’r lle o ganlyniad i anafiadau i’w goes.

Mae cwmni Hi-Fold Doors Limited, oedd yn gyfrifol am gynhyrchu’r drysau, wedi cael gwŷs gan y Gweithgor Iechyd a Diogelwch am fethu â chyflawni eu dyletswyddau diogelwch.

Mae’r band wedi perfformio ar lwyfan Pyramid yng ngŵyl Glastonbury.