Mae ymddiriedolaeth y GIG a oedd yn gyfrifol am gynnal Ysbyty Stafford wedi pledio’n euog o dorri rheolau iechyd a diogelwch “sylweddol iawn” a oedd yn gysylltiedig â marwolaeth pedwar claf oedrannus yn eu gofal.

Clywodd Llys Ynadon Stafford bod tri o’r marwolaethau wedi digwydd ar ôl i’r cleifion syrthio, tra bod claf arall wedi marw ar ôl derbyn penisilin, er bod staff yr ysbyty wedi cael gwybod bod ganddi alergedd i’r gwrthfiotig.

Roedd Ymddiriedolaeth GIG Canol Swydd Stafford wedi pledio’n euog i bedwar trosedd trwy ei gyfreithwyr ac fe fydd yn cael ei ddedfrydu gan Lys y Goron Stafford.