Mae heddlu sy’n ymchwilio i gyfres o ymosodiadau rhyw yn ne Llundain wedi arestio pedwerydd dyn.

Dywedodd Scotland Yard fod dyn 24 oed wedi cael  ei arestio yn Brixton neithiwr ar amheuaeth o ymosod yn rhywiol.

Mae’n cael ei holi gan yr heddlu mewn gorsaf yn ne Llundain.

Mae naw dynes wedi dioddef ymosodiadau rhyw yn ardal Clapham a Brixton yn ystod y mis diwethaf ac mae’r heddlu yn credu bod cysylltiad rhwng yr ymosodiadau.

Yn dilyn yr ymosodiadau, mae swyddogion yn rhybuddio menywod i fod yn “wyliadwrus”.

Cafodd dau ddyn, 34 a 30 oed, eu rhyddhau ar fechnïaeth tra bod ymholiadau’r heddlu’n parhau a chafodd trydydd dyn, 32 oed, ei arestio yn oriau man bore ddydd Llun.