Bailey Gwynne
Mae disgyblion yn dychwelyd i ysgol uwchradd yn Aberdeen heddiw am y tro cyntaf ers i ddisgybl 16 oed gael ei drywanu yno.

Bu farw Bailey Gwynne yn y digwyddiad yn Cults Academy ddydd Mercher diwethaf.

Mae’r ysgol wedi bod ynghau ers hynny a dywedodd Cyngor Dinas Aberdeen bod mesurau mewn lle i helpu disgyblion, teuluoedd a staff sydd wedi’u heffeithio pan fyddan nhw’n dychwelyd heddiw.

Mae disgwyl i wasanaethau arbennig gael eu cynnal heddiw.

Mae bachgen 16 oed, na ellir ei enwi am resymau cyfreithiol, wedi cael ei gyhuddo o lofruddio ac mae’n cael ei gadw yn y ddalfa.

Mae hefyd wedi’i gyhuddo o fod a chyllell yn ei feddiant ar dir yr ysgol ac mae disgwyl iddo fynd gerbron llys unwaith eto ar 6 Tachwedd.