Mae gwaharddiad ar yfed alcohol yn gyhoeddus a chyfyngiadau pellach ar siopau tecawê ymhlith rheolau coronafeirws llymach a gyhoeddwyd gan Nicola Sturgeon.

Mae lleihau nifer y siopau all gynnig gwasanaethau clicio a chasglu, cryfhau’r gyfraith sy’n ei gwneud yn ofynnol i staff weithio gartref ymhlith y newidiadau eraill – a bydd pob un ohonynt yn dod i rym ddydd Sadwrn (Ionawr 16).

Wrth siarad yn Senedd yr Alban ar ddechrau Cwestiynau’r Prif Weinidog ddydd Mercher (Ionawr 13), dywedodd Nicola Sturgeon y bydd yfed alcohol yn yr awyr agored ym mhob ardal Lefel 4 yn yr Alban yn cael ei wahardd.

Bydd Albanwyr hefyd yn cael eu gwahardd rhag mynd i mewn i fusnesau lletygarwch ar gyfer gwasanaethau tecawê, sy’n golygu bod yn rhaid gwerthu bwyd neu ddiod y tu allan i’r safle.

Bydd canllawiau statudol yn cael eu cyflwyno yn annog cyflogwyr i gefnogi gweithwyr i aros gartref “lle bynnag y bod modd”, cyhoeddodd y Prif Weinidog.

Ar wahân i hynny, bydd canllawiau a gyhoeddwyd yn flaenorol i ganiatáu i waith hanfodol gael ei wneud yng nghartrefi pobol yn dod yn gyfraith.

Cadarnhaodd Nicola Sturgeon y bydd rheoliadau coronafeirws yn newid i wahardd pobl rhag gadael cartref at ddiben hanfodol ac yna gwneud rhywbeth nad yw’n hanfodol ar ôl iddynt adael y tŷ.

“Tybiwch fod y feirws yno gyda chi”

“Mae’n golygu os yw’r heddlu’n eich herio am fod allan o’r tŷ yn gwneud rhywbeth nad yw’n hanfodol, ni fydd yn amddiffyniad o ddweud eich bod wedi gadael y tŷ i ddechrau i wneud rhywbeth a oedd yn hanfodol.

“Peidiwch â meddwl am y rhyngweithio mwyaf y gallwch ei gael heb dorri’r rheolau.

“Meddyliwch yn hytrach am sut rydych chi’n lleihau eich rhyngweithiadau i’r hanfodion er mwyn cael gwared ar gymaint o gyfleoedd â phosibl i ledaenu’r feirws.

“Ym mhopeth rydych chi’n ei wneud, tybiwch fod y feirws yno gyda chi – naill ai chi’n neu unrhyw berson rydych chi mewn cysylltiad ag ef – ac yna gweithredwch mewn ffordd sy’n ei atal rhag pasio rhyngoch chi.

“Mae hyn i gyd yn golygu aros gartref ac eithrio at ddibenion gwirioneddol hanfodol – gan gynnwys gweithio gartref pryd bynnag y bo hynny’n bosibl.”