Mae beiciwr wedi marw, yn dilyn gwrthdrawiad â char yn Swydd Caer yn ystod yr oriau mân.

Mae Heddlu Cheshire wedi cadarnhau mai dyn lleol oedd y beiciwr 34 blwydd oed a fu farw o ganlyniad i’w anafiadau.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng car Vauxhall Astra glas, a’r beic ar briffordd A534 Nantwich Road yn nhre’ Criw. Dynes leol, 28 oed, oedd yn gyrru’r car.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw toc cyn 2.15yb, ac mae’r heddlu’n chwilio am dystion fel rhan o’i ymchwiliad i’r digwyddiad.