Mae’r Gwasanaeth Iechyd (GIG) yn bwriadu peilota prawf gwaed sy’n gallu darganfod mwy na 50 math gwahanol o ganser.

Mae’r prawf gwaed Galleri, sy’n gallu darganfod canser cynnar drwy gymryd prawf gwaed syml, yn cael ei beilota gyda 165,000 mewn cytundeb rhwng y GIG yn Lloegr.

Yn ôl y GIG mae ymchwil ar gleifion sydd ag arwyddion o ganser yn awgrymu bod y prawf yn gallu adnabod gwahanol fathau o ganser sy’n anodd cael diagnosis cynnar fel canser yr ofari, pancreas, a rhai mathau o ganser y gwaed.

Mae’r prawf wedi cael ei ddatblygu gan y cwmni Grail o’r Unol Daleithiau.

Os yw’r ymchwil yn dangos bod y prawf hefyd yn gweithio ymhlith pobl sydd heb symptomau, yna fe fydd yn cael ei ymestyn.

Fe allai’r prawf helpu i gynyddu nifer yr achosion lle mae diagnosis cynnar yn helpu i atal marwolaethau.

Mae disgwyl i’r cynllun peilot ddechrau tua chanol 2021.

O’r 165,000 o bobl sy’n cymryd rhan yn y peilot, fe fydd yn cynnwys 140,000 rhwng 50 a 79 oed sydd hen unrhyw symptomau ond fe fyddan nhw’n cael prawf gwaed blynyddol am dair blynedd.

Mae disgwyl i ganlyniadau’r cynllun peilot gael eu cyhoeddi yn 2023 ac os yw’r canlyniadau yn bositif fe fydd yn cael ei ehangu i gynnwys miliwn o bobl yn 2024 a 2025.