Theresa May
Mae Theresa May wedi cyhoeddi cynlluniau i drawsnewid y system ar gyfer ceiswyr lloches er mwyn lleihau nifer y rhai sy’n dod i Brydain.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref bod y broses gyfredol yn rhoi lloches i’r rhai sydd wedi llwyddo i ddod i’r DU, a bod pobl sydd ddim mewn risg yn eu gwledydd eu hunain wedi cymryd mantais o’r system.

Yn ei haraith yng nghynhadledd y Blaid Geidwadol ym Manceinion, dywedodd Theresa May bod nifer uchel y ffoaduriaid hefyd yn ei gwneud yn anodd sicrhau cymdeithas unedig yn y DU.

Drwy leihau nifer y bobl sy’n gwneud cais am loches ar gam ym Mhrydain, meddai, bydd rhagor o adnoddau ar gael i helpu’r ffoaduriaid “mwyaf agored i niwed” o wledydd peryglus y byd.

“Mae ’na bobl sydd angen ein help ac mae ’na bobl sy’n manteisio ar ein hewyllys da ac rwy’n gwybod ar ochr pwy ydw i.”

Mae ei haraith yn cael ei gweld fel ymdrech i sefydlu ei hun fel yr ymgeisydd asgell dde yn y gystadleuaeth i olynu David Cameron.

Mae’r Prif Weinidog eisoes wedi cyhoeddi na fydd yn sefyll am drydydd tymor.