Mae teyrngedau wedi’u rhoi i un o “gewri” Llafur, yr Arglwydd Denis Healey, sydd wedi marw’n 98 oed.

Roedd Healey yn Ganghellor o 1974 i 1979, ac fe ddaeth yn ddirprwy arweinydd y Blaid Lafur yn 1980.

Fe fu farw fore Sadwrn yn ei gartref yn Swydd Sussex yn dilyn salwch byr.

Daeth yn Aelod Seneddol dros Dde Ddwyrain Leeds yn 1952, a chael ei benodi i’r Cabinet fel Ysgrifennydd Amddiffyn yn 1964.

Treuliodd bum mlynedd rhwng 1974 a 1979 yn rhif 11 Downing Street.

Roedd yn ymgeisydd ar gyfer arweinyddiaeth y Blaid Lafur ar ddau achlysur, ond fe gollodd yn erbyn James Callaghan yn 1976 a Michael Foot yn 1980.

Dywedodd arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn: “Roedd Denis Healey yn gawr yn y Blaid Lafur y mae ei record o wasanaethu ei blaid a’i wlad yn dyst iddo.”

Talodd Corbyn deyrnged i hiwmor Healey, oedd yn ei wneud yn “un o’r gwleidyddion hawsaf i’w adnabod yn ei gyfnod”.

Dywedodd Prif Weinidog Prydain, David Cameron fod Healey yn “ffigwr anferth” ym myd gwleidyddiaeth yng ngwledydd Prydain.

“Ry’n ni wedi colli ffigwr anferth ym myd gwleidyddiaeth ar ôl y rhyfel.”

Ychwanegodd ei fod yn “wleidydd dewr” oedd wedi “dweud gwireddau anodd wrth ei blaid”.

Dywedodd arweinydd Llafur yn Nhŷ’r Cyffredin, y Farwnes Smith: “Roedd Denis yn ddyn gwych ym myd gwleidyddiaeth Prydain ac yn gymeriad go iawn gyda synnwyr hwyl anferth.”

Ychwanegodd y byddai colled ar ei ôl yn Nhŷ’r Arglwyddi.

Dywedodd cyn-arweinydd y Blaid Lafur, Neil Kinnock fod Healey yn “alluog iawn, dewrder personol anferth… a synnwyr digrifwch…”

Ychwanegodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones fod Healey yn “parhau i ysbrydoli” yn y byd gwleidyddol yn yr oes sydd ohoni.