Mae Prif Weinidog Prydain, David Cameron wedi addo cynyddu nifer yr awyrennau di-beilot sy’n cael eu defnyddio yn y frwydr yn erbyn y Wladwriaeth Islamaidd.

Mae disgwyl i amddiffyn a diogelwch fod ar frig agenda cynhadledd y Ceidwadwyr ym Manceinion.

Dywed Cameron fod buddsoddi yn y lluoedd arbennig a dulliau cudd-wybodaeth yn hanfodol i ateb y bygythiad gan frawychwyr yn y DU.

Dywedodd wrth bapur newydd y Sunday Telegraph y byddai’r DU yn prynu 20 o awyrennau di-beilot newydd ar gyfer cyrchoedd yn Irac a Syria.

“Un o’r bygythiadau mwyaf y mae’n rhaid i ni ymateb iddo yw’r bygythiad gan frawychwyr ac mae hynny’n golygu llawer o bethau yn nhermau diogelwch cartref, yn amlwg, a’n gwasanaethau cudd-wybodaeth.

“Ond y mae hefyd yn golygu sicrhau bod gennym y cyfarpar milwrol a’r adnoddau sydd eu hangen arnom…”

“Ateb terfynol” fyddai targedu nifer o unigolion sydd ar restr Prydain o frawychwyr peryglus yn ystod y cyrchoedd nesaf, meddai Cameron.

Daw ffocws y Ceidwadwyr ar amddiffyn yn dilyn cynhadledd Llafur a chefnogaeth yr arweinydd Jeremy Corbyn ar gyfer di-arfogi niwclear.

Mae disgwyl i Corbyn annerch cyfarfod cyhoeddus ym Manceinion ddydd Llun wrth i brotestiadau yn erbyn polisi llymder y Ceidwadwyr.