Y Prif Weinidog David Cameron (llun: PA)
Mae’r Prif Weinidog David Cameron yn rhyuddio bod ymyrraeth filwrol Rwsia yn gwneud pethau’n waeth yn Syria.

Dywed fod lluoedd Vladimir Putin yn helpu cynnal yr arlywydd Bashar Assad yn lle trechu’r eithafwyr Islamaidd IS neu Isil.

“Mae’n gwbl amlwg nad yw Rwsia yn gwahaniaethu rhwng Isil a’r gwrthwynebwyr eraill yn Syria,” meddai. “O ganlyniad maen nhw’n cefnogi’r unben gwaedlyd Assad ac yn ei helpu ac yn gwaethygu’r sefyllfa.

“Maen nhw wedi cael eu collfarnu ar draws y byd Arabaidd am yr hyn maen nhw wedi’i wneud a dw i’n meddwl bod y byd Arabaidd yn iawn am hynny.

“Ond fe ddylen ni fod yn manteisio ar y cyfle i geisio gwthio cynllun cynhwysfawr i ddod â thrawsnewidad gwleidyddol yn Syria oherwydd dyna yw’r ateb er mwyn dod â heddwch i’r rhanbarth.”