Mae’r Blaid Geidwadol wedi dewis Zac Goldmith fel eu hymgeisydd i olynu Boris Johnson fel Maer Llundain yn yr etholiad y flwyddyn nesaf.

Mae disgwyl brwydr agos rhyngddo a’r ymgeisydd Llafur Sadiq Khan yn yr etholiad ym mis Mai.

Er nad yw’r naill na’r llall yn enwau cyfarwydd i’r un graddau â Boris Johnson a Ken Livingstone, mae’r ddau’n wleidyddion medrus sydd â throedle gwleidyddol yn Llundain.

Mae’r ddau’n Aelodau Seneddol dros etholaethau yn y brifddinas, gyda Zac Goldsmith yn cynrychioli Richmond Park a Sadiq Khan yn cynrychioli Tooting.

Mae’r ddau o gefndiroedd hynod wahanol fodd bynnag, gyda Zac Goldmith yn fab i’r biliwnydd James Goldsmith, a Sadiq Khan yn fab i yrrwr bws a symudodd i Lundain o Pacistan.

Mae’r etholiad yn debygol o gael ei weld hefyd fel prawf o boblogrwydd un arall o Aelodau Seneddol Llundain – Jeremy Corbyn.