Mae dwy wraig o wledydd Prydain wedi marw wedi iddyn nhw fod yn nofio’n hwyr y nos oddi ar arfordir Sbaen.

Fe ddaethpwyd o hyd i’w cyrff rhyw ddwy filltir o Lloret de Mar ar y Costa Brava, lle diflannon nhw tua 4.15yb.

Mewn neges ar wefan gymdeithasol Twitter, mae gwasanaethau achub Sbaen wedi cadarnhau fod cyrff y gwragedd, 33 a 36 oed, wedi eu canfon toc wedi hanner dydd heddiw (amser lleol), a’u bod wedi’u cludo i dre’ Blanes, tua 40 milltir i’r gogledd o Barcelona.

“Gallwn gadarnhau fod dwy Brydeinwraig wedi mynd ar goll ar Hydref 1,” meddai llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor.

“Rydyn ni’n cynnig cefnogaeth i’w teuluoedd ac i’r rheiny oedd yn cyd-deithio gyda nhw, ar yr adeg anodd hon.”