Richard Branson
Mae’r gwr busnes, Richard Branson, wedi dweud iddo grio pan glywodd fod yr Almaen yn agor ei drysau led y pen i groesawu ffoaduriaid.

Mae’r wlad yn haeddu “y cwtsh mwyaf” am wneud y peth iawn, meddai’r biliwnydd.

Wrth annerch cynulleidfa yn ninas Dulyn, Iwerddon, dywedodd Richard Branson hefyd y gallai gwledydd eraill fod ar eu hennill o ddilyn esiampl Canghellor yr Almaen, Angela Merkel, wrth ddelio gydag argyfwng y ffoaduriaid.

“Fe ddaeth y cyfan a dagrau i fy llygaid,” meddai, “yn enwedig pan welais yr Almaen yn cynnig derbyn miliwn o bobol, a’r modd y gwelson ni lond trenau o bobol yn mynd i’r Almaen.

“Mae’r Almaen yn haeddu’r cwtsh mwyaf gan y byd yn gyfan am ddangos dewrder, ac am wneud y peth iawn.”

“Os y trowch chi’r cloc ymlaen bum mlynedd, mi fydd yr Almaen ar ei hennill… ond eto, roedd o’n benderfyniad dewr ar ei rhan.

“Mae yna wledydd eraill a allai fod ar eu hennill o dderbyn mwy o ffoaduriaid,” meddai Richard Branson wedyn. “Ac, wrth gwrs, mae dirfawr angen cartrefi ar y ffoaduriaid hefyd.”