Roedd cwymp Llafur yn yr Alban yn rhannol oherwydd ei rhan yn yr ymgyrch trawsbleidiol, Better Together, cyn y refferendwm ar annibyniaeth, yn ôl arweinydd newydd y blaid ym Mhrydain.

Bydd Jeremy Corbyn yn ymweld â’r Alban fory a dywedodd mewn cyfweliad â BBC Radio Scotland, “Dwi’n meddwl yr hyn aeth o’i le oedd yr ymgyrch Better Together.”

Roedd Llafur wedi gweithio â’r Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn yr ymgyrch o blaid yr Alban yn aros yn rhan o’r DU, gan “ddieithrio rhai o’i chefnogwyr” yn y wlad.

Fe wnaeth cyn-arweinydd y blaid yn yr Alban, Johan Lamont honni bod y Blaid Lafur yn yr Alban yn cael ei thrin fel “is-swyddfa” ond mynnodd Jeremy Corbyn nad oedd hyn yn wir.

Roedd yr etholiad ym mis Mai eleni wedi bod yn drychineb i’r blaid yn yr Alban wrth iddyn nhw golli 40 o’i 41 o seddi yno.

Fe ddywedodd Jeremy Corbyn hefyd fod “methiant” Llafur yn y DU i wrthwynebu polisïau llymder economaidd y Ceidwadwyr hefyd wedi cyfrannu at fethiant y blaid.

Blaenoriaethau

 

Gydag etholiadau yn digwydd yn Holyrood ym mis Mai y flwyddyn nesaf, mae Jeremy Corbyn wedi cynnal trafodaethau ag arweinydd y blaid yn yr Alban, Kezia Dugdale.

Dywedodd fod Llafur “yn ceisio datblygu ein hymgyrch hyd at yr etholiad y flwyddyn nesaf,” ond ei fod yn gwrando ar farn aelodau yn yr Alban.

Mynnodd mai’r blaenoriaethau yn yr Alban oedd am “y cyfleoedd i bobl ifanc fynd i’r ysgol, i fynd i’r coleg, i fynd i brifysgol, y mater o bwy sy’n berchen ac yn rhedeg gwasanaethau cyhoeddus, y mater o dlodi”.

“Gallai’r SNP ddweud eu bod yn mynd i’r afael â’r problemau hyn, ond mae’r broblem o golli lleoedd coleg a phroblemau anghydraddoldeb i gyd yn gorfod cael eu hwynebu,” meddai.