Jeremy Corbyn
Mae arweinydd Llafur wedi gosod yr agenda ar gyfer ei blaid ac wedi dweud y gallan nhw ennill y flwyddyn nesaf, gan ddechau gyda  etholiadau’r Cynulliad yng Nghymru.

Yn ei araith fwyaf ers cael ei ethol yn arweinydd y blaid Lafur, fe wnaeth Jeremy Corbyn wrthod honiadau’r Ceidwadwyr nad oes “dewis arall” heblaw cael gwared a swyddi a gwasanaethau cyhoeddus.

“Mae Llafur yn dweud Na,” meddai yng nghynhadledd y blaid yn Brighton.

Dywedodd: “Hoffwn groesawu ein holl aelodau newydd i’r blaid, pawb sydd wedi ymuno a’r blaid yn yr ymdrech fawr hon.

“I newid ein plaid, newid ein  gwlad, newid ein gwleidyddiaeth a newid y ffordd ry’n ni’n gwneud pethau.”

Ychwanegodd ei fod am i bobl ym Mhrydain fod yn ymwybodol o’r tasgau sy’n cael blaenoriaeth gan Lafur gan gynnwys “adnewyddu ein polisïau fel ein bod ni’n gallu estyn allan i bobl ar draws y wlad ac ennill. Gan ddechrau’r flwyddyn nesaf. Yng Nghymru, Yn Llundain. Ym Mryste. Mewn etholiadau llywodraeth leol ar draws Prydain.”

Cyhuddo’r Ceidwadwyr o ‘dwyllo’

Fe gyhuddodd y Torïaid o “dwyllo miliynau o bobl” rhag cymryd rhan mewn etholiadau arfaethedig yng Nghymru a Llundain drwy newid y rheolau ar gofrestrau etholiadol, ac addawodd y byddai’n arwain ymgyrch i gael pobl nôl ar y gofrestr.

Dal i wrthwynebu Trident

Pythefnos ar ôl cael ei ethol yn arweinydd y blaid gyda 59% o’r bleidlais, dywedodd Jeremy Corbyn nad oedd o blaid gwario £100 biliwn ar arfau niwclear ac y byddai Llafur yn adolygu ei pholisi amddiffyn, gan awgrymu y byddan nhw am gael gwared a system arfau niwclear Trident.

Cadarnhaodd hefyd fod cynlluniau ar y gweill i roi’r rheilffyrdd yn ôl i berchnogaeth y cyhoedd wrth i ryddfreintiau gael eu hadnewyddu.

Ond mynnodd mai aelodau Llafur fydd yn cael y “gair olaf” ar bolisïau ei blaid, nid ef ac nid ei gabinet.

Yn ôl yr arweinydd, roedd etholiad arweinyddiaeth Llafur dros yr haf yn “ddaeargryn gwleidyddol”.

“Roedd pobl yn dweud bod sosialaeth wedi marw, ac eto mae rhywbeth newydd, bywiog, poblogaidd wedi ffrwydro.”

Ac mae e am ddefnyddio hynny i adeiladu “cymdeithas i’r mwyafrif” ym Mhrydain.

Argyfwng Syria

Beirniadodd ymosodiadau diweddar y Llywodraeth ar frawychwyr yn Syria, gan ddweud: “Dyw’r ateb i’r ymladd cymhleth a thrasig hwn ddim yn gallu cael ei ddatrys gydag ychydig o fomiau.

“Dyw ymosodiadau milwrol ar IS ddim yn llwyddo, achos does gennym ni ddim strategaeth ddiplomyddol yn Syria.”

‘Dysgu gwersi gan yr SNP’

Dywedodd hefyd y byddai’n “dysgu gwersi” gan yr SNP yn yr Alban, gan fynnu bod Llafur yn dal i fod yn “lais blaengar” yn y wlad.

“Dwi’n gwybod eich bod chi’n teimlo ein bod ni wedi colli ein ffordd yn yr Alban, dwi’n cytuno” meddai.

Tâl mamolaeth a thadolaeth i’r hunangyflogedig

Cyhoeddodd hefyd y byddai Llafur yn ymestyn tâl mamolaeth a thadolaeth i’r rhai sy’n hunangyflogedig.

Gorffennodd ei araith drwy ddweud ei bod am adeiladu cymdeithas fwy gofalgar a gwleidyddiaeth fwy caredig.

“Gadewch i ni roi ein gwerthoedd – gwerthoedd y bobl yn ôl i wleidyddiaeth.”