Gerry Adams
Fe gyhoeddwyd heddiw na fydd Gerry Adams, llywydd Sinn Fein, yn cael ei erlyn mewn cysylltiad â llofruddiaeth Jean McConville gan yr IRA yn 1972.

Fe wnaeth Gwasanaeth Erlyn Cyhoeddus Gogledd Iwerddon (PPS) gyhoeddi hefyd na fydd  chwech o bobl eraill, a oedd yn cael eu hamau o fod yn gysylltiedig â lladd y fam i 10 o Belfast, yn cael eu cyhuddo chwaith.

Daw cyhoeddiad y PPS yn dilyn cyfnod o ymchwilio dwys i ddogfennau’r saith a gyflwynwyd i’r heddlu gan dditectifs oedd yn ymchwilio i’r llofruddiaeth yn 1972.

Fe gafodd Gerry Adams, sy’n 66 oed ac yn gyn-Aelod Seneddol Gorllewin Belfast ei arestio a’i holi am bedwar diwrnod y llynedd ynglŷn â’r llofruddiaeth.

Ailagor y cwest

Cafodd Jean McConville ei llusgo oddi wrth ei phlant a’i chartref yn fflatiau Divis, gorllewin Belfast gan grŵp o 12 o ddynion a merched ar ôl cael ei chyhuddo ar gam o roi gwybodaeth i’r lluoedd diogelwch.

Cafodd ei holi a’i saethu yng nghefn ei phen – cyn ei chladdu a “diflannu am flynyddoedd”.

Daethpwyd o hyd i’w chorff  wedyn yn 2003, pan wnaeth storm ddadorchuddio ei gweddillion ar draeth Co Louth – 50 milltir o’i chartref.

Yn dilyn hynny, cafodd yr achos llofruddiaeth ei ailagor yn 2013, ac fe ddaeth ditectifs o hyd i gofnodion ar dâp gan gyn-aelodau o’r IRA yn siarad am y saethu, gyda dau siaradwr yn honni mai Gerry Adams wnaeth orchymyn llofruddiaeth Jean McConville.

Fe arweiniodd hyn at gyfres o gyhuddiadau yn 2014, gan gynnwys y cyhuddiadau yn erbyn Gerry Adams.

Ymateb y teulu

Fe wnaeth swyddogion y PPS ddweud wrth fab Jean McConville y bore yma, ac fe ddywedodd y teulu y byddai brwydr y teulu “am gyfiawnder yn parhau”.

“Roedd y rheiny wnaeth orchymyn, cynllunio a gweithredu’r drosedd ryfelgar hon yn meddwl y byddai eu heuogrwydd yn diflannu gyda’r corff,” meddai.

“Ond dyw e ddim, a byddwn ni’n parhau i fynnu cyfiawnder i’n mam,” ychwanegodd.