Mae ymchwiliad wedi dechrau i geisio darganfod beth achosodd i drên ddod oddi ar y cledrau yn Sir Aberdeen, gan ladd tri ac anafu chwech o  bobl eraill.

Roedd y trên wedi gadael Aberdeen am 6.38yb pan ddigwyddodd y ddamwain ger Stonehaven fore dydd Mercher (Awst 12) yn ystod glaw trwm a llifogydd. Y gred yw bod y trên wedi taro tirlithriad.

Ymhlith y rhai fu farw oedd gyrrwr y trên, Brett McCullough, un o staff y trên Donald Dinnie, a theithiwr.

Mae’r Frenhines, y Prif Weinidog Boris Johnson a Phrif Weinidog yr Alban Nicola Sturgeon ymhlith y rhai i roi teyrngedau i’r tri gafodd eu lladd yn y digwyddiad “trasig”.

Cafodd dwsinau o gerbydau gwasanaethau brys, gan gynnwys ambiwlans awyr, eu galw i’r safle tua 9.40yb.

Dywedodd pennaeth Heddlu Trafnidiaeth Prydain (BTP) y bydd ymchwiliad yn cael ei gynnal i ddarganfod “yr amgylchiadau llawn pam fod y trên wedi dod oddi ar y cledrau.”

Mae disgwyl i’r Ysgrifennydd Trafnidiaeth Grant Shapps a Michael Matheson o Lywodraeth yr Alban ymweld â’r ardal heddiw (dydd Iau, Awst 13) i gwrdd ag aelodau o’r gwasanaethau brys.