Bydd Cynllun Swyddi’r Canghellor, Rishi Sunak, sydd â’r nod o fynd i’r afael â sgil-effeithiau argyfwng y coronafeirws, yn golygu bron i £10 biliwn yn llai o wariant ar brosiectau oedd wedi eu trefnu eisoes, yn ôl economegwyr.

Mae dadansoddiad y Sefydliad Astudiaethau Cyllidol (yr IFS) wedi datgelu bod y cynigion, yr honnodd y Canghellor a fyddai’n gyfystyr â £30bn o gefnogaeth, yn cael eu hariannu’n rhannol gan doriadau ar gynlluniau oedd yn bodoli eisoes.

Beirniadodd y felin drafod “ddiffyg tryloywder” y Trysorlys, gan ddweud y bydd cynlluniau Rishi Sunak mewn gwirionedd yn costio oddeutu £20bn.

“Llawer llai o ffanffer” 

Ynghyd â chyhoeddiadau mawr y Canghellor, datgelwyd “gyda llawer llai o ffanffer” y byddai gostyngiadau i wariant a gynlluniwyd yn flaenorol.

Yn ôl yr IFS, mae penderfyniadau’r Trysorlys ar gyllid ar gyfer y llywodraethau datganoledig yn awgrymu eu bod yn disgwyl i’r tanwariant hwn fod yn fwy na £8 biliwn, tra bod Swyddfa Cyfrifoldeb y Gyllideb (yr OBR) yn disgwyl y bydd yn debycach i £10 biliwn.

“Yn niweddariad yr haf yr wythnos ddiwethaf, lansiodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig ei Gynllun Swyddi £30bn,” meddai cyfarwyddwr y Sefydliad Astudiaethau Cyllidol, David Phillips.

“Beth wnaeth e ddim ei ddweud oedd bod bron i £8bn ohono yn mynd i ddod o wario llai ar bethau eraill.

“Mae’r OBR yn credu bydd y Cynllun Swyddi yn costio £20bn, nid £30bn.

“Felly mae’n troi allan bod y pecyn yn debygol o fod yn agosach i £12bn gyda gwariant ychwanegol o £8bn wedi ei ail-leoli o gynlluniau blaenorol.”

Y Trysorlys yn gwadu

Mae’r Trysorlys wedi gwrthod dadansoddiad y felin drafod o gyllid yn cael ei ail-leoli o gynlluniau blaenorol.

“Mae’r awgrym hwn yn anghywir,” meddai llefarydd ar ran y Trysorlys.

“Mae’r Trysorlys wedi caniatáu gwariant ychwanegol gan adrannau fel rhan o’r Cynllun Swyddi.”