Mae cwmni fferyllol Boots wedi cyhoeddi ei fod yn bwriadu cael gwared a mwy na 4,000 o swyddi fel rhan o gynllun i liniaru “effaith sylweddol” pandemig y coronafeirws.

Bydd y penderfyniad yn effeithio oddeutu 7% o weithlu’r cwmni, yn enwedig staff yn ei swyddfa yn Nottingham.

Bydd swyddi dirprwy reolwyr, ymgynghorwyr harddwch ac ymgynghorywyr cwsmeriaid hefyd yn cael eu heffeithio ar draws eu siopau.

Fel rhan o’r ailstrwythuro bydd 48 o siopau Optegydd Boots yn cau.

Daw hyn wedi i werthiant ostwng 47% dros y tri mis diwethaf yn sgil y pandemig.

Tra bod gwerthiant busnes optegydd Boots wedi gostwng 72% o’i gymharu â’r un chwarter y llynedd.

“Diolchgar iawn i’r staff”

Mae rheolwr gyfarwyddwr Boots, Sebastian James, wedi dweud ei fod yn “ddiolchgar iawn i’n holl staff am eu hymroddiad yn ystod y misoedd anodd diwethaf”.

“Maen nhw wedi camu ymlaen i gefnogi eu cymunedau, ein cwsmeriaid a’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn ystod y cyfnod hwn, ar rwyf yn falch ofnadwy i fod yn gwasanaethu gyda nhw,” meddai.

“Rydym yn cydnabod y bydd cyhoeddiad heddiw yn anodd i’r bobol anhygoel sydd wrth galon ein busnes, a byddwn yn gwneud popeth yn ein gallu i ddarparu cefnogaeth yn y cyfnod hwn”.