Gorsaf Niwclear Hinkley Point yng Ngwlad yr Haf
Mae’r Canghellor George Osborne yn pwyso am ragor o ymrwymiad gan China mewn prosiectau isadeiledd sylweddol yn y DU.

Daw hyn yn sgil ei gyhoeddiad y bydd Llywodraeth San Steffan yn cyfrannu £2 biliwn tuag at fuddsoddiad Beijing i adeiladu gorsaf niwclear ddadleuol yng Ngwlad yr Haf.

Dywedodd George Osborne ei fod yn gobeithio y bydd yr arian gan y Llywodraeth yn arwain at benderfyniad terfynol ynglŷn â gorsaf niwclear Hinkley Point C gan gwmni EDF o Ffrainc.

Mae’r cwmni o Ffrainc yn cael buddsoddiad gan China General Nuclear Corporation a China National Nuclear Corporation.

Mae George Osborne wedi dweud y bydd rhagor o arian ar gael yn y tymor hir.

Oedi

Fe gyhoeddodd cwmni ynni EDF yn gynharach y mis hwn bod oedi yn y cynlluniau i adeiladu gorsaf niwclear gyntaf y DU ers 20 mlynedd ac na fyddai’n dechrau cynhyrchu ynni yn 2023 yn ôl y disgwyl.

Mae prif weithredwr EDF, Vincent de Rivaz, wedi croesawu cyhoeddiad George Osborne gan ddweud ei fod yn “arwydd clir o ymrwymiad y Llywodraeth i Hinkley Point C”.

Yn ôl y Canghellor, mae ynni niwclear newydd yn “hanfodol” i sicrhau bod gan Brydain ddigon o ynni yn ystod y 10 mlynedd nesaf ac mae’r Ysgrifennydd Ynni Amber Rudd yn dweud y gallai’r adweithydd newydd greu 25,000 o swyddi ar draws y DU.

Mae’r Llywodraeth yn disgwyl y bydd yr orsaf niwclear newydd yn cyflenwi trydan i oddeutu 6 miliwn o gartrefi.

Ond mae prif wyddonydd Greenpeace yn y DU Doug Parr wedi wfftio’r cyhoeddiad gan ddweud mai bwriad yw ceisio celu’r “trafferthion” sydd yn wynebu Hinkley Point.

Rhagor o fuddsoddiad

Mae’n debyg y bydd y prosiect yn cael ei drafod yn ystod cyfarfod George Osborne gyda dirprwy arweinydd China, Ma Kai, yn Beijing a’r gobaith yw y bydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud pan fydd Arlywydd China  Li Xinping yn ymweld â Phrydain fis nesaf.

Y disgwyl yw y bydd y trafodaethau yn Beijing yn canolbwyntio ar y potensial am ragor o fuddsoddiad gan China mewn prosiectau fel gorsafoedd niwclear a chysylltiadau rheilffordd cyflym yn y DU yn y dyfodol.

Er gwaetha trafferthion diweddar China yn y marchnadoedd arian a thwf Cynnyrch Mewnwladol Crynswth (GDP) yn arafu, mae disgwyl i’r Canghellor  ddefnyddio ei araith ddydd Mawrth i son am botensial China i hybu’r economi rhyngwladol a’i fwriad i geisio sicrhau cysylltiadau economaidd agosach gyda’r wlad.