Kate Green yw llefarydd addysg newydd y Blaid Lafur yn San Steffan.

Mae hi’n olynu Rebecca Long-Bailey, a gafodd ei diswyddo yr wythnos ddiwethaf ar ôl rhannu erthygl wrth-Semitaidd ar y cyfryngau cymdeithasol.

Fe fu pwysau ar aelodau asgell chwith y blaid i roi’r hawl iddi ddychwelyd i’w swydd, ond fe wnaeth yr arweinydd, Syr Keir Starmer, wrthod y galwadau yn dilyn cyfarfod ag aelodau meinciau cefn y blaid.

Yr arweinydd ei hun sydd wedi dewis ei holynydd, sy’n aelod seneddol yn Stretford ac Urmston ac yn 60 oed.

Cyn dod yn aelod seneddol, roedd hi’n brif weithredwr ar fudiad sy’n ceisio atal tlodi plant a chyn hynny yn gyfarwyddwr cyngor sy’n gwarchod rhieni sengl sydd bellach yn cael ei alw’n Gingerbread.

‘Oes o ymgyrchu’

Dywed Syr Keir Starmer ei fod e wrth ei fodd yn dilyn y penodiad.

“Mae Kate wedi treulio’i hoes yn ymgyrchu yn erbyn tlodi plant ac anghydraddoldeb mewn addysg,” meddai.

“Dw i’n edrych ymlaen at gydweithio â hi yn y rôl newydd hon.”

Hi oedd y llefarydd menywod ac anghydraddoldeb yng nghabinet cysgodol Jeremy Corbyn.

Ond rhoddodd hi’r gorau i’w swydd yn dilyn refferendwm ar Brexit fel rhan o’r hyn oedd yn cael ei weld fel gwrthdystiad yn erbyn yr arweinydd.

Aeth yn ei blaen wedyn i gadeirio ymgyrch arweinyddol aflwyddiannus Owen Smith.

Cafodd ei phenodi’n llefarydd tlodi plant gan Syr Keir Starmer ym mis Ebrill.

‘Braint’

“Mae’n fraint cael cais i wasanaethu fel llefarydd addysg,” meddai.

“Mae’r pandemig coronafeirws wedi cael effaith ddinistriol ar addysg plant.

“Dw i’n edrych ymlaen at gydweithio ag athrawon, undebau, rhieni a chynghorau i helpu i sicrhau ein bod ni’n dychwelyd plant i’r ysgol cyn gynted â phosib.”

Mae sawl undeb wedi croesawu ei phenodiad.

Helynt Rebecca Long-Bailey

Cafodd Rebecca Long-Bailey ei diswyddo ddiwedd yr wythnos ar ôl gwrthod dileu neges ar Twitter yn tynnu sylw at gyfweliad â’r actores Maxine Peake.

Roedd yr actores yn honni bod yr heddlu oedd yn gyfrifol am ladd George Floyd yn yr Unol Daleithiau wedi dysgu’r dacteg o wasgu gyddfau gan wasanaethau cudd Israel.

Dywedodd yr aelod seneddol nad oedd hi’n “hiliol na gwrth-Semitaidd” i dynnu sylw at dactegau’r heddlu.

Dywedodd ei bod hi eisiau trafod y mater â’r arweinydd cyn iddi ddileu’r neges ond mae’n ymddangos ei bod hi’n rhy hwyr erbyn hynny, a bod Syr Keir Starmer eisoes wedi penderfynu ei diswyddo.

Roedd hi’n un o’r ymgeiswyr yn y ras am arweinyddiaeth y blaid pan gafodd Syr Keir Starmer ei ethol yn gynharach eleni.

Dydy hi ddim yn debygl y bydd unrhyw un yn ymddiswyddo yn sgil diswyddo Rebecca Long-Bailey, tra ei bod hi hefyd yn dweud ei bod hi am barhau i wasanaethu’r blaid.