Fe allai gymryd hyd at dair wythnos cyn i Wlad Groeg “agor pontydd teithio” â Phrydain, yn ôl Gweinidog Twristiaeth y wlad.

Pontydd teithio yw’r cytundeb sy’n galluogi trigolion gwledydd deithio’n ôl ac ymlaen heb gyfyngiadau.

“Rydyn ni’n ymgynghori â’n harbenigwyr iechyd ar hyn o bryd ond dw i’n credu, o gofio’r ffaith fod y Deyrnas Unedig yn symud i’r cyfeiriad cywir, y bydd yn fater o ddyddiau neu wythnosau er mwyn sicrhau bod yr holl gyfyngiadau’n cael eu codi,” meddai Haris Theoharis wrth BBC Breakfast.

“Felly dw i’n teimlo, fel mae pethau nawr – a rhaid rhoi seren wrth ymyl y ffaith fod rhaid i’r sefyllfa iechyd barhau ar yr un trywydd ag yw hi ar hyn o bryd – yna fe allwn ni godi’r cyfyngiadau yn sicr dros y dyddiau neu’r ddwy neu dair wythnos nesaf.

“Unwaith fydd gyda ni fwy o eglurder, byddwn ni’n gallu cyfleu’r dyddiadau cywir a’r neges gywir felly dyna pam nad yw’n hawdd i fi bennu dyddiadau pendant.

“Dw i jyst yn rhoi ymdeimlad i chi o’r cyngor rydyn ni’n ei gael gan arbenigwyr ar hyn o bryd.”

‘Newyddion da’ i’r diwydiant

Yn y cyfamser, mae’r diwydiant twristiaeth wedi ymateb yn gadarnhaol i’r posibilrwydd y bydd modd cynnal teithiau eto yn y dyfodol agos.

Yn ôl Jonathan Smith o fudiad Abta, byddai llacio’r cyfyngiadau’n “newyddion da iawn” yn dilyn “cyfnod anodd iawn”.

Mae’n dweud bod y diwydiant bellach yn aros i gael clywed pa wledydd fydd ym mhob categori wrth i system oleuadau traffig ddod i rym.

“Bydd yn dechrau’r drefn bwcio ar gyfer yr haf a gall pobol edrych ymlaen at wyliau’r haf,” meddai wrth BBC Breakfast.

“Yr hyn sydd wir ei angen, fodd bynnag, yw cadarnhad o’r rhestr o wledydd sy’n bwysig iawn, a dyddiad a newid yn y cyngor teithio gan y Swyddfa Dramor, sydd ar hyn o bryd yn cynghori yn erbyn teithio oni bai bod rhaid.”

Mae’n dweud ar yr un pryd y bydd profiadau pobol o gael mynd ar eu gwyliau’n wahanol iawn yn sgil y cyfyngiadau.

“Fe fydd rheolau yn eu lle, yn sicr, o ran meysydd awyr ac ar awyrennau ac os ydyn nhw’n mynd ar wyliau pecyn yna mae’n bosib y bydd newidiadau o ran systemau bwyty bwffe a bydd gweini wrth fyrddau, felly bydd ambell newid bach yn eu lle, ond mae’n fater o sicrhau bod y profiad o fynd ar wyliau’n ddiogel a bod modd ei fwynhau.”

‘Nerfusrwydd’, medd Visit Britain

Yn ôl Visit Britain, fe fydd “nerfusrwydd go iawn” wrth i bobol ddechrau teithio eto, hyd yn oed o fewn gwledydd Prydain.

Dywed y cyfarwyddwr strategaeth a chyfathrebu Patricia Yates y bydd y diwydiant wedi colli oddeutu £37bn yn ystod cyfnod y gwarchae.

“Rydyn ni wedi bod yn mesur teimladau cwsmeriaid yn wythnosol, ac ry’n ni wedi gweld nerfusrwydd go iawn ynghylch teithio, hyd yn oed yn ddomestig, drwy gydol yr haf.

“Nawr, gyda’r newid yng nghyngor y llywodraeth, rydyn ni’n gobeithio y bydd hynny’n newid ac yn amlwg, mae’r marc yno er mwyn ceisio darbwyllo pobol, ac rydyn ni’n cynnal ymgyrch sicrwydd yn y tymor byr i ddarbwyllo pobol y gallan nhw deithio, ei bod yn gyfrifol yn gymdeithasol i deithio ac y gallan nhw chwilio am y marc a gwybod fod busnesau’n gwybod beth maen nhw’n ei wneud.”

Dywed ei bod hi’n gobeithio y bydd modd ymestyn tymor y gwyliau y tu hwnt i fis Awst er mwyn adennill peth o’r arian sydd wedi’i golli.

“Rydyn ni’n sôn am gwymp o ryw £37bn mewn diwydiant sy’n cyflogi miliynau o bool ar draws y wlad.

“Felly mae’n bwysig iawn ailddechrau twristiaeth a gweithio’n galed iawn i ymestyn y tymor.”