Y cwnstabl David Whyte yw’r plismon gafodd ei anafu’n ddifrifol yn yr ymosodiad yn Glasgow brynhawn ddoe (dydd Gwener, Mehefin 27).

Cafodd y dyn 42 oed ei drywanu gan ddyn mewn gwesty sy’n gartref dros dro i geiswyr lloches yn ystod ymlediad y coronafeirws, ac mae e mewn cyflwr difrifol ond sefydlog.

Roedd e’n un o chwech o bobol gafodd eu hanafu yn y digwyddiad.

Cafodd y troseddwr honedig ei saethu’n farw gan yr heddlu yn y fan a’r lle, ac mae lle i gredu mai fe yw’r unig un fu farw, yn groes i adroddiadau’r wasg fod nifer o bobol wedi’u lladd.

Dywed yr heddlu nad ydyn nhw’n chwilio am unrhyw un arall mewn perthynas â’r ymosodiad, nad yw’n cael ei drin fel ymosodiad brawychol, a bod y cyhoedd bellach yn ddiogel.