Mae arweinwyr iechyd yn galw am adolygiad brys er mwyn sicrhau bod Prydain yn barod am y “risg” o ail don o’r coronafeirws.

Maen nhw wedi rhybuddio aelodau seneddol bod angen gweithredu nawr er mwyn rhwystro rhagor o farwolaethau a gwarchod yr economi yn sgil ofnau y bydd y coronafeirws yn dychwelyd dros y gaeaf.

Mae’r apêl yn cael ei gefnogi gan lywyddion Coleg Brenhinol y Meddygon, Llawfeddygon, Meddygon Teulu a Nyrsio, yn ogystal â chadeirydd Cymdeithas Feddygol Prydain.

Daw hyn wedi i Boris Johnson lacio’r cyfyngiadau yn Lloegr ddoe (dydd Mawrth, Mehefin 23).

Yn Lloegr, bydd y rheol dau fetr yn cael ei llacio, gyda rheol “un metr a mwy” yn dod i rym, gyda thafarndai a bwytai yn cael agor eto.

Ond yr un yw’r rheoliadau yng Nghymru a’r Alban o hyd.

Llythyr agored

Mewn llythyr agored at arweinwyr holl bleidiau gwleidyddol y Deyrnas Unedig, mae’r arweinwyr iechyd wedi galw am “asesiad brys sy’n edrych i’r dyfodol” o barodrwydd y wlad i ddelio ag ail don o’r coronafeirws.

“Er nad yw hi’n hawdd darogan dyfodol y pandemig yn y Deyrnas Unedig, mae’r dystiolaeth sydd ar gael yn awgrymu bod achosion lleol yn gynyddol debygol ac mae ail don yn risg o ddifri,” meddai’r llythyr.

“Nawr, nid yn unig mae’n rhaid delio gydag effaith ton gyntaf y pandemig, ond mae’n rhaid sichrau bod y wlad yn barod i ymateb i ail don.”