Ynysoedd y Falkland
Mae llysgennad yr Ariannin ym Mhrydain wedi disgrifio Jeremy Corbyn fel “un ohonom ni” wrth drafod safbwynt yr arweinydd Llafur newydd ynglŷn ag Ynysoedd y Falkland.

Dywedodd Alicia Castro ei bod hi’n teimlo “llawenydd a bodlonrwydd mawr” fod Jeremy Corbyn wedi cael ei ethol yn arweinydd, a’i fod o blaid cynnal trafodaethau ynglŷn â dyfodol yr ynysoedd.

Mae Ynysoedd y Falkland wedi’u lleoli oddi ar arfordir De America ac yn diriogaeth sydd yn perthyn i Brydain, ond mae’r Ariannin hefyd yn hawlio’r ynysoedd maen nhw’n ei alw’n Las Malvinas.

‘Newid barn’

Yn ôl llysgennad yr Ariannin, roedd ethol Corbyn yn arwydd bod “newid yn y gwynt” yn agweddau pobl Prydain tuag at Ynysoedd y Falkland.

Mewn cyfweliad papur newydd dywedodd Alicia Castro fod yr arweinydd Llafur newydd wedi “cymryd rhan mewn cyfarfod â grwpiau o bob rhan o Ewrop oedd o blaid cynnal deialog [am ddyfodol yr ynysoedd]”.

“Fe allai ei arweinyddiaeth ef arwain barn gyhoeddus Prydain tuag at ffafrio deialog rhwng llywodraethau Prydain a’r Ariannin, yn unol â galwadau’r gymuned ryngwladol,” ychwanegodd Alicia Castro.

Mynnod hefyd fod barn gyhoeddus ym Mhrydain am ddyfodol Ynysoedd y Falkland wedi dechrau newid yn ystod y tair blynedd roedd hi wedi bod yn ei swydd fel llysgennad.

‘Bygythiad i ddiogelwch’

Dyw Jeremy Corbyn ddim wedi crybwyll Ynysoedd y Falkland hyd yn hyn ers iddo gael ei ethol yn arweinydd y blaid Lafur, ond yn y gorffennol mae wedi bod yn gefnogol o ymdrechion i gael Prydain a’r Ariannin i drafod eu dyfodol.

Fodd bynnag, ers y penwythnos mae’r Ceidwadwyr wedi cynyddu eu pwyslais ar ba mor beryglus maen nhw’n credu y byddai Corbyn i ddiogelwch Prydain petai e’n arwain Llafur mewn llywodraeth.

Ddoe fe drydarodd David Cameron neges yn dweud bod y “Blaid Lafur nawr yn fygythiad i’n diogelwch cenedlaethol, i’n diogelwch economaidd ac i ddiogelwch eich teulu”.

Ac mae’r Ceidwadwyr bellach wedi rhyddhau fideo yn honni bod Jeremy Corbyn wedi disgrifio marwolaeth Osama bin Laden fel “trasiedi” a’i fod wedi cyfeirio at fudiadau Hamas a Hezbollah fel “ffrindiau”.

Maen nhw hefyd wedi cwestiynu safbwynt Corbyn ynglŷn â chael gwared ag arfau niwclear Trident.