Nicola Sturgeon, Prif Weinidog yr Alban
Cynyddu fydd y gefnogaeth i annibyniaeth i’r Alban os na fydd Jeremy Corbyn yn dangos  bod ganddo obaith creadadwy o ennill yr etholiad cyffredinol nesaf.

Dyna oedd ymateb Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, i fuddugoliaeth ysgubol Jeremy Corbyn heddiw.

“Rydym yn llongyfarch Jeremy Corbyn ar ei fuddugoliaeth ac yn gobaithio y gallwn weithio’n adeiladol gydag er mewn cynghrair flaengar yn erbyn llymder Torïaidd,” meddai.

“Rydym hefyd yn galw arno i roi ymrwymiad cynnar y bydd ASau Llafur yn ymuno â’r SNP wrth bleidleisio yn erbyn gwario £100 ar adnewyddu Trident.

“Fodd bynnag, y realiti heddiw yw bod Jeremy Corbyn, ar adeg pan fo’r wlad angen gwrthwynebiad cryf i’r Torïaid, yn arwain plaid ranedig iawn.

“Yn wir, os na all Llafur ddangos yn fuan fod ganddyn nhw obaith credadwy o ennill etholiad nesaf y Deyrnas Unedig, mae llawer mwy o bobl yr Alban yn debygol o ddod i’r casgliad mai annibyniaeth yw’r unig ddewis i lywodraeth Dorïaidd barhaol.

“Yn y cyfamser, mae’n gliriach nag erioed mai’r unig wrthblaid gredadwy ac unedig i’r Toriaid, i’r gogledd ac i’r de o’r ffin, yw’r SNP.”

Daw ei sylwadau ar ôl arolygon barn sy’n awgrymu bod mwyafrif bach o bobl yr Alban o blaid annibyniaeth. Mae’r arolwg diweddaraf yn dangos mwyafrif bach yn erbyn, ond y gefnogaeth yn dal yn uwch nag oedd yn y refferendwm flwyddyn yn ôl.