Mae Aelodau Seneddol wedi pleidleisio yn erbyn yr hawl i gael cymorth i farw heddiw ar ôl pedair awr o drafodaeth ddwys.
Roedd 330 o ASau yn erbyn ac 118 o blaid, gan roi mwyafrif o 212 yn gwrthod y Mesur Cymorth i Farw a fyddai’n rhoi’r hawl i oedolion â llai na chwe mis i fyw i ofyn am gymorth meddygol i farw.
Roedd nifer o Aelodau Seneddol ar ddwy ochr o’r ddadl wedi ceisio cryfhau eu hachos drwy adrodd straeon personol, profiadau gyrfa a chefndir crefyddol.
Bu rhai aelodau yn dadlau bod yr ymgyrch i gyflwyno’r mesur cymorth i farw yn ‘atgyfnerthu credoau bod bywydau pobl anabl ddim mor werthfawr â bywydau pobl eraill’.
Fe wnaeth AS yr SNP, Philippa Whitford ddadlau nad yw’r mesur hwn yn datrys y gwir broblem,
“Pan fo’r cyhoedd yn cefnogi hyn, maen nhw’n meddwl am Alzheimer’s, am Parkinson’s ac am glefyd niwronau motor, nid y chwe mis diwethaf o salwch terfynol,” meddai.