Safle damwian Shoreham
Fe fydd peilot awyren a fu mewn damwain yn ystod sioe awyr Shoreham, gan ladd 11 o bobl, yn cael ei holi gan yr heddlu ac ymchwilwyr i’r digwyddiad.

Cafodd Andrew Hill anafiadau difrifol ar ôl i’w awyren Hawker Hunter daro i mewn i gerbydau ar ffordd yr A27 yng ngorllewin Sussex.

Yn ôl adroddiadau mae wedi gadael ysbyty arbenigol ac yn wynebu cael ei holi “mor fuan â phosib”.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Sussex: “Mae cyflwr y peilot yn gwella.

“Mae’r heddlu ac ymchwilwyr o’r Adran Ymchwiliadau i Ddamweiniau Awyr (AAIB), yn gobeithio holi’r peilot mor fuan â phosib.”

Ychwanegodd nad oedd yn gallu datgelu lleoliad y peilot.

Y rhai a fu farw yn y ddamwain oedd  Maurice Abrahams 76, Graham Mallinson, 72, Mark Trussler, 54,  Dylan Archer, 42, Richard Smith, 26, Tony Brightwell, 53, Mark Reeves, 53, Matthew Grimstone a Jacob Schilt, y ddau yn 23; Matt Jones, 24; a Daniele Polito, 23.

Cafodd y cwest i’w marwolaethau ei agor a’i ohirio wythnos diwethaf gan grwner Gorllewin Sussex Penelope Schofield. Fe fydd adolygiad cyn y cwest yn cael ei gynnal ar 22 Mawrth.