Mae’r rhan fwyaf o drigolion y DU yn teimlo’n ansicr ynghylch sut y byddent yn helpu dioddefwyr  trais yn y cartref, yn ôl arolwg newydd.

Dim ond un ym mhob chwech o’r 2,000 o bobl a holwyd gan Gyngor ar Bopeth (CAB) ddywedodd na fyddai dim yn eu hatal rhag rhannu eu hamheuaeth bod rhywun maen nhw’n eu hadnabod mewn perthynas dreisgar.

Awgrymodd yr ymatebwyr eraill y bydden nhw’n teimlo’n anesmwyth am rannu eu pryderon gyda rhywun arall.

Roedd y rhesymau’n cynnwys ofnau y gallen nhw wneud y sefyllfa’n waeth, amharodrwydd i siarad am rywbeth nad oedden nhw’n “hollol siŵr” ohono,  a diffyg gwybodaeth am y goblygiadau i’r dioddefwr.

Mae’r diffyg hyder ar sut i ymateb yn cael ei weld yn arbennig o arwyddocaol gan fod bron un o bob tri (31%) o’r rhai a holwyd yn adnabod rhywun sydd wedi dioddef trais yn y cartref.

Nawr, mae CAB yn galw am gyflwyno arweiniad sy’n cyfateb i god y groes werdd er mwyn nodi’r camau ar gyfer helpu dioddefwyr.

Yn gynharach y mis hwn, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gyllid ychwanegol o £1.24 miliwn fydd yn cael ei roi i wasanaethau trais yn y cartref yng Nghymru.

Bydd yr arian yn cael ei rannu rhwng pedwar ar ddeg o brosiectau cam-drin domestig ledled Cymru.