Blodau ger safle'r ddamwain yn Shoreham
Fe fydd y chwilio am ragor o gyrff yn dilyn damwain sioe awyr Shoreham yn parhau heddiw.

Mae crwner Gorllewin Sussex, Penny Schofield , wedi rhybuddio y gallai’r broses o adnabod y rhai fu farw fod yn araf ac y gallai gymryd “rhai wythnosau” cyn bod yr ymchwiliadau wedi’u cwblhau.

Dywed Heddlu Sussex eu bod yn amcangyfrif bod 11 o bobl wedi marw pan blymiodd  awyren Hawker Hunter i ffordd yr A27, ond maen nhw wedi rhybuddio y gallai’r ffigwr godi.

Ddoe, roedd yr Awdurdod Hedfan Sifil (CAA) wedi cyhoeddi y bydd yn cyflwyno cyfyngiadau llym ar sioeau awyr dros dir mewn hen awyrennau, yn sgil damwain sioe awyr Shoreham ddydd Sadwrn.

Cafodd gweddillion yr awyren ei symud gan graen o’r safle ddoe a bydd yn cael ei gludo i Farnborough, Hampshire lle bydd yr Adran Ymchwiliadau i Ddamweiniau Awyr (AAIB) yn archwilio’r gweddillion.

Mae mwy na 200 o bobl wedi mynegi pryderon wrth yr heddlu am deulu a ffrindiau sydd ar goll.

Ymhlith y rhai fu farw roedd y chauffeur Maurice Abrahams, 76, o Brighton a oedd ar ei ffordd i gludo priodferch i’w phriodas.

Dywedodd ei deulu mewn datganiad ei fod yn dad a gŵr “uchel ei barch” a oedd wrth ei fodd yn gyrru ei gar Daimler a garddio.

Ymhlith y tri arall fu farw sydd wedi cael eu henwi mae pêl-droedwyr Worthing United, Matthew Grimstone a Jacob Schilt, y ddau’n 23 oed, a’r hyfforddwr personol Matt Jones, 24 oed.

Mae’r peilot Andrew Hill yn parhau mewn cyflwr difrifol iawn ac wedi cael ei roi mewn coma gan feddygon.