Mae dyn 24 oed wedi marw ar ôl mynd i drafferthion yn un o ddociau Lerpwl yn ystod noson allan neithiwr.
Roedd wedi bod allan gyda dau ddyn arall yn eu 20au a gafodd eu hachub o Ddoc Salthouse ger canolfan yr Echo Arena.
Cafwyd hyd i’r trydydd dyn yn y dŵr yn ddiweddarach am 9.45yh.
Cafodd ei gludo i’r ysbyty yn Lerpwl, ond roedd wedi marw cyn cyrraedd.
Mae lle i gredu bod y tri o ardal Manceinion, a’u bod wedi bod allan yn Noc Albert yn Lerpwl.