Mae llysgenhadaeth Prydain yn Iran wedi ail-agor bedair blynedd ar ôl iddi gau oherwydd trais sylweddol.

Mae Philip Hammond wedi teithio i Tehran ar gyfer seremoni sy’n nodi ymweliad cyntaf Ysgrifennydd Tramor Llywodraeth Prydain â’r wlad ers 2003.

Torrodd Prydain gyswllt diplomyddol gydag Iran pan dorrodd protestwyr i mewn i’r llysgenhadaeth yn 2011, ond fe fu gwelliant yn y berthynas ers i Hassan Rouhani gael ei ethol yn Arlywydd.

Ajay Sharma fydd yn arwain y llysgenhadaeth am y tro, ond mae trafodaethau ar y gweill i benodi llysgennad parhaol yn y misoedd i ddod.

Mae llysgenhadaeth Iran yn Llundain hefyd yn cael ei hail-agor.

Fis diwethaf, daeth Iran i gytundeb â nifer o wledydd tros ei rhaglen niwclear, a chafodd nifer o sancsiynau eu diddymu o ganlyniad.

Mae arweinwyr busnes wedi teithio i Iran i drafod nifer o bosibiliadau o ran masnachu gyda gwledydd Prydain.