Mae gwystl o wledydd Prydain a gafodd ei gipio yn yr Yemen wedi cael ei ryddhau o ganlyniad i ymdrechion lluoedd arfog yr Emiradau Arabaidd Unedig.

Dydy hi ddim yn hysbys pwy yw’r person eto.

Mae’r Ysgrifennydd Tramor, Philip Hammond wedi teithio i brifddinas Iran, Tehran, lle cyhoeddodd y newyddion.

“Rwy’n falch o gadarnhau bod y gwystl Prydeinig a gipiwyd yn yr Yemen wedi cael ei dynnu allan gan luoedd yr Emiradau Arabaidd Unedig fel rhan o weithgarwch yn seiliedig ar dystiolaeth filwrol.”

Ychwanegodd fod swyddogion Llywodraeth Prydain yn cynnig cymorth i’r person.

Mae nifer o bobol o wledydd Prydain wedi cael eu cipio yn yr Yemen yn ddiweddar oherwydd bod aelodau al Qaida yn ceisio cyfnewid gwystlon am garcharorion neu arian.