Mae peilot awyren Hawker Hunter a blymiodd i ganol ffordd brysur yn Swydd Sussex yn ystod sioe awyr yn parhau mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.

Bu farw saith o bobol yn Shoreham wrth i’r awyren daro canol ffordd A27 ar ôl ceisio symudiad arbennig fel rhan o’r sioe.

Cafodd 14 o bobol eraill eu hanafu yn dilyn y digwyddiad am oddeutu 1.20yp.

Mae’r chwilio am ragor o gyrff yn parhau heddiw.

Mae adroddiadau lleol yn dweud mai Andy Hill yw’r peilot, a’i fod yn gyn-aelod o’r Awyrlu.

Dywedodd tystion fod yr awyren wedi plymio i’r ddaear cyn ffrwydro a thorri yn ei hanner.

Mae un o’r bobol a gafodd ei anafu bellach wedi’i ryddhau o’r ysbyty.

Mae Prif Weinidog Prydain, David Cameron wedi mynegi ei gydymdeimlad â theuluoedd y rhai fu farw.

Mae’r sioe awyr wedi’i chanslo heddiw.

Mae disgwyl i ffordd A27 fod ynghau tan ddydd Llun.

Dyma’r ail waith ers 2007 i beilot farw yn ystod y sioe yn Swydd Sussex.

Yn 2007, bu farw Brian Brown, 49, pan blymiodd awyren Hurricane o’r Ail Ryfel Byd i’r ddaear.

Mae’r heddlu’n apelio ar dystion i anfon deunydd fideo o’r digwyddiad atyn nhw ar gyfer eu hymchwiliad.