Mae nifer o athletwyr Prydeinig blaenllaw wedi galw ar yr awdurdodau athletau i weithredu yn dilyn honiadau bod nifer o enillwyr medalau yn y Gemau Olympaidd a phencampwriaethau’r byd wedi methu profion cyffuriau.

Mae pryderon wedi cael eu mynegi bod traean o fedalau Olympaidd a phencampwriaethau’r byd – gan gynnwys 55 medal aur – wedi cael eu rhoi i athletwyr sy’n cael eu hamau o gymryd cyffuriau.

Mae enillwyr 146 o fedalau o dan amheuaeth.

Yn dilyn ymchwiliad gan bapur newydd y Sunday Times, fe ddaeth i’r amlwg fod amheuaeth ynghylch profion cyffuriau o leiaf 800 o athletwyr, ac mae arbenigwr wedi dweud bod eu profion yn “awgrymu’n gryf eu bod wedi cymryd cyffuriau neu o leiaf eu bod yn abnormal”.

Cafodd Jessica Ennis-Hill ei churo i’r fedal aur ym Mhencampwriaethau’r Byd gan Tatyana Chernova o Rwsia ac ers hynny, mae Chernova wedi cwblhau gwaharddiad o ddwy flynedd am gymryd cyffuriau.

Dywedodd Ennis-Hill wrth y Sunday Times: “Dydy hi byth yn dda cael clywed am droseddau honedig o gymryd cyffuriau yn fy nghamp, ond os ydyn ni am stopio nifer o athletwyr rhag meddwl bod twyllo’n dderbyniol, rhaid i ni archwilio’r holl wybodaeth sy’n dod i’r fei, waeth bynnag pa mor niweidiol ydyw i’r gamp ar y cyfan.

“Gobeithio’n fawr y gall y ddau sefydliad [IAAF a WADA] ymateb i’r honiadau diweddaraf yn gyflym fel bod athletwyr a chefnogwyr yn gallu parhau gyda hyder i gredu bod cynnydd yn cael ei wneud wrth geisio atal troseddau cyffuriau yn ein camp.”

Mae’r Arglwydd Sebastian Coe, un o is-lywyddion yr IAAF, wedi ategu neges Jessica Ennis-Hill.

Mae un arall o athletwyr Prydain, Jenny Meadows o’r farn ei bod hi wedi colli’r cyfle i ennill o leiaf dair medal ar draul athletwyr sy’n euog o gymryd cyffuriau.

Dywedodd y rhedwraig 800m wrth y Sunday Times: “Pan dw i’n ymarfer, dw i’n mynd i lawr i’r trac a bron yn lladd fy hun bob dydd. Dydy e ddim yn bleserus.

“Dw i’n ceisio cael y gorau o’m corff mewn ffordd naturiol. Rhaid eich bod yn gallu ymdopi gyda llawer iawn o boen.

“Does dim rhaid i bobol sy’n cymryd cyffuriau fynd drwy’r un peth i’r un graddau. Mae’n torri corneli. Mae hynny’n chwalu’r ysbryd.

“Mae’n gwneud i chi beidio eisiau codi yn y bore a gweithio mor galed.”

Yn dilyn y newyddion, dywedodd Syr Steve Redgrave ei fod yn gobeithio na fydd cysgod dros Gemau Olympaidd 2016 yn Rio de Janeiro yn sgil yr honiadau diweddaraf.

“Pan fo’r byd cyfan yno, mae’n amser da iawn i ddatgelu manylion am gymryd cyffuriau. Mae’n drist ei bod yn dal yn rhan o’r gamp.”

“Rhaid i’r awdurdodau chwaraeon… fod un cam ar y blaen yn hytrach na cham ar ei hôl hi fel sydd wedi digwydd ar adegau.

“Dylai chwaraeon olygu chwarae teg a dylid cystadlu ar lwyfan cyfartal.”