Mae pryderon wedi cael eu mynegi bod traean o fedalau Olympaidd a phencampwriaethau’r byd – gan gynnwys 55 medal aur – wedi cael eu rhoi i athletwyr sy’n cael eu hamau o gymryd cyffuriau.

Mae enillwyr 146 o fedalau o dan amheuaeth.

Yn dilyn ymchwiliad gan bapur newydd y Sunday Times, fe ddaeth i’r amlwg fod amheuaeth ynghylch profion cyffuriau o leiaf 800 o athletwyr, ac mae arbenigwr wedi dweud bod eu profion yn “awgrymu’n gryf eu bod wedi cymryd cyffuriau neu o leiaf eu bod yn abnormal”.

Mae un o brif athletwyr y DU o dan amheuaeth, meddai’r papur, ynghyd â chwech athletwr arall o wledydd Prydain.

Mae amheuaeth ynghylch enillwyr 10 o fedalau yn ystod Gemau Olympaidd Llundain yn 2012.

Honiad arall yw fod mwy na thraean o’r amserau cyflymaf yn y byd gan athletwyr y mae amheuon eu bod nhw wedi defnyddio cyffuriau.

Mae’r Sunday Times wedi cael mynediad i gronfa ddata o fwy na 12,000 o brofion gwaed 5,000 o athletwyr.

Cafodd canlyniadau’r ymchwil eu datgelu mewn rhaglen ddogfen gan y sianel deledu Almaenig ARD.

Wrth ymateb i’r honiadau, dywedodd Syr Craig Reedie, llywydd WADA – y corff sy’n rheoleiddio profion cyffuriau: “Mae Wada yn bryderus iawn am yr honiadau newydd hyn sydd wedi cael eu gwneud gan ARD, ac fe fyddan nhw, unwaith eto, yn siglo athletwyr ‘glân’ ar draws y byd i’r byw.”

Fe gadarnhaodd fod y mater yn cael ei drosglwyddo ar unwaith i Gomisiwn Annibynnol y sefydliad.

“Mae’r honiadau hyn yn gofyn am gael eu craffu’n gyflym ac yn agos er mwyn penderfynu a gafodd rheolau Cod Gwrth-Gyffuriau’r Byd eu torri ac os felly, pa gamau sydd angen eu cymryd gan Wada a/neu gyrff eraill.”

Cafodd y data ei ryddhau i’r wasg er eu bod nhw’n eiddo’r ffederasiwn IAAF, ac mae’r Sunday Times yn honni na chafodd unrhyw un o’r medalau eu tynnu oddi ar yr athletwyr yn dilyn y profion.