Mae treisiwr plant sydd wedi ei wahardd rhag bod ar ei ben ei hun gyda genethod rhwng 10 ac 16 oed, wedi cael caniatâd barnwr llys teulu i fyw yn y cartref lle bydd ei ferch fach yn cael ei magu.

Daeth y Barnwr Karen Venables i’r casgliad y dylai’r ferch fach – sydd tua dwy oed – gael ei magu gan rieni’r dyn.

Hefyd mae’r Barnwr wedi rhoi sêl bendith i gynllun gan y gwasanaethau cymdeithasol fydd yn caniatáu i’r dyn, sydd yn ei ugeiniau, “aros o fewn y cartref” cyn belled bod “goruchwyliaeth lac” ohono.

Er bod rhai o fanylion yr achos wedi dod i’r fei yn dilyn y gwrandawiad mewn llys teulu yn Milton Keynes, ni chafodd yr un o’r unigolion dan sylw eu henwi.