Mae dyn wnaeth dorri pen gwraig oedrannus yn ei gardd gefn wedi ei gael yn ddieuog o’i llofruddio, ond bydd yn treulio gweddill ei oes mewn ysbyty meddwl.

Fe wnaeth Nicholas Salvador ladd Palmira Silva, 82, fis Medi’r llynedd, ar ôl iddo hefyd ddienyddio dwy gath mewn rhes o erddi cefn yn Edmonton, gogledd Llundain.

Clywodd y llys bod Salvador, 25 oed, yn dioddef o sgitsoffrenia paranoiaidd.

Ar ôl clywed yr holl dystiolaeth, fe wnaeth y rheithgor benderfynu o fewn 40 munud ei fod yn ddieuog o lofruddio am nad oedd yn ei iawn bwyll.

Bydd yn treulio gweddill ei oes yn ysbyty meddwl Broadmoor.