Mae corff deifiwr a aeth ar goll oddi ar arfordir de Lloegr fis yn ôl, wedi’i ganfod.

Roedd Andy Moll, 59, yn aelod o dim o dri o ddeifwyr a fu’n archwilio hen long rhyw chwe milltir i’r de o Swanage yn swydd Dorset ar Fai 24.

Fe fethodd â dychwelyd i’r wyneb ac i gwch yr Emma J.

Fe gafodd corff y tad i bedwar o Taunton, Gwlad yr Haf, ei ganfod neithiwr.