Ffliw adar
Mae cyfyngiadau ar symud adar yng ngogledd Lloegr wedi’u codi, yn dilyn achosion diweddar o ffliw adar.

Fe laddwyd tua 6,000 o hwyaid ar fferm yn Nafferton, Dwyrain Swydd Efrog, wedi i rai adar brofi’n bositif i’r straen H5N8 o’r ffliw adar fis diwetha’.

Roedd y clefyd o’r un math â’r un gafodd ei gadarnhau ar ffermydd ieir yn Utrecht yn yr Iseldiroedd ac yn yr Almaen hefyd.

Mewn datganiad heddiw, mae adran DEFRA (Department for Environment, Food and Rural Affairs) yn dweud: “Ar Ragfyr 21, mae pob cyfyngiad wedi’i godi.

“Mae hyn yn golygu fod pob fferm sy’n cadw ffowls o fewn 10 cilomedr i’r fferm oedd wedi’i heintio, bellach yn cael symud adar ac anifeiliaid eraill, heb unrhyw gyfyngiad. Mae cyfyngiadau eraill ynglyn â storio, cario a phrynu a gwerthu cynnyrch cig, hefyd wedi’u codi.”