Andy Coulson
Mae’r Prif Weinidog David Cameron wedi cael ei feirniadu am wneud sylwadau ar ôl i Andy Coulson ei gael yn euog o gynllwynio i hacio ffonau, tra bod y rheithgor yn dal i ystyried cyhuddiadau eraill yn ei erbyn.

Daeth i’r amlwg bellach y bu bron i’r achos orfod dod i ben yn dilyn sylwadau David Cameron am yr achos.

Ymddiheurodd David Cameron ddoe am benodi Coulson fel ymgynghorydd cyfathrebu yn Rhif 10 gan ddweud ei fod wedi gwneud y penderfyniad anghywir.

Dywedodd y barnwr, Mr Ustus Saunders, ei fod yn “bryderus iawn” am sylwadau Cameron tra bod y rheithgor yn dal i ystyried cyhuddiadau eraill yn erbyn cyn olygydd y News of the World a  chyn olygydd brenhinol y papur, Clive Goodman.

Dywedodd y Prif Weinidog ei fod wedi cael cyngor cyfreithiol cyn gwneud ei sylwadau.

Yn y cyfamser mae’r rheithgor yn yr achos hacio ffonau wedi cael eu rhyddhau o’u dyletswyddau ar ôl iddyn nhw fethu a chyrraedd dyfarniad ar ddau gyhuddiad arall yn erbyn Coulson a Goodman.

Roedd y ddau wedi eu cyhuddo o gynllwynio i gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus drwy dalu swyddogion yr heddlu am restr o rifau ffôn y teulu brenhinol.

Fe fydd penderfyniad yn cael ei wneud ddydd Llun ynglŷn â chynnal ail  achos.

Fe allai Coulson wynebu hyd at ddwy flynedd dan glo pan fydd e’n cael ei ddedfrydu’r wythnos nesaf.

Cafwyd cyn brif weithredwr News International, Rebekah Brooks yn ddieuog o’r holl gyhuddiadau yn ei herbyn ddoe.