Y digrifwr Jason Manford, sydd wedi cyfrannu at ymgrych Stephen Sutton
Mae llanc sy’n brwydro yn erbyn canser wedi derbyn gwerth £2 filiwn o gyfraniadau gan y cyhoedd tuag at ymgyrch codi arian.

Roedd Stephen Sutton o Burntwood yn Swydd Stafford wedi lansio’r ymgyrch er budd y Teenage Cancer Trust ac wedi llunio rhestr o bethau hoffai gyflawni cyn marw.

Mae enwogion megis Simon Pegg, Steve Coogan, James Nesbitt a Jason Manford wedi anfon cyfraniadau wrth i ymgyrch Stephen Sutton ledaenu ar wefannau cymdeithasol megis Twitter a Facebook.

Wythnos yma roedd y dyn 19 oed wedi ysgrifennu bod ei gyflwr wedi gwaethygu, ac nad oedd llawer o amser ganddo ar ôl. Ond ers hynny mae wedi dweud ei fod yn “dal i ymladd” wrth i’r cyfraniadau barhau i lifo mewn.

Cefndir

Cafodd y llanc ei ddiagnosio gyda chanser y coluddyn pan oedd yn 15 oed, ac er iddo dderbyn triniaeth, lledodd y canser i rannau eraill ei gorff. Ar ôl triniaeth bellach daeth meddygon i’r casgliad nad oedd modd ei wella.

Tra’n brwydro â’r canser lluniodd Stephen Sutton restr o 46 o bethau yr hoffai eu gwneud cyn iddo farw, ar y cyd gyda’r ymgyrch godi arian. Ar y rhestr mae pethau megis rhoi cwtsh i eliffant, cael tatŵ, chwarae drymiau mewn ffeinal yn Wembley, ac ymddangos ar ddrama’r BBC, Doctors.

Ysgrifennodd ar ei dudalen Facebook ei fod yn dod yn ei flaen yn iawn, er iddo feddwl nad oedd llawer o amser ganddo i fyw.

“Fore Sul cwympodd fy ysgyfaint dde i: Ges i dîm argyfwng o’m hamgylch, ac i fod yn onest ro’n i’n agos at eich gadael chi gyd.

“Des i drwyddi.

“O’r pwynt yna ymlaen mae fy adferiad wedi bod yn bositif ac yn annisgwyl,” meddai.

Ychwanegodd Stephen Sutton ei fod yn byw o ddydd i ddydd a’i fod “yn hapus – a dyna yw’r prif beth!”