Michael D Higgins gyda'r Frenhines
Mae Arlywydd Iwerddon, Michael D Higgins wedi ymweld â’r Frenhines, y tro cyntaf i bennaeth y wlad gynnal ymweliad o’r fath.
Cafodd y cyfarfod ei gynnal yng nghastell Windsor, dair blynedd ar ôl i’r Frenhines deithio i Iwerddon.
Mae’r cyfarfod yn cael ei ystyried yn bennod newydd yn hanes y berthynas rhwng Prydain ac Iwerddon.
Fe fydd Dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon, Martin McGuinness yn mynychu digwyddiad arbennig yn dilyn y cyfarfod.
Teithiodd Michael D Higgins i Lundain yng nghwmni Tywysog Cymru a Duges Cernyw, cyn cyfarfod â’r Frenhines a Dug Caeredin.
Cafodd Michael D Higgins ei gyfarch yn yr iaith Wyddeleg gan aelod o Warchodlu’r Frenhines.
Cyflwynodd Arlywydd Iwerddon gôt newydd i fascot swyddogol y gwarchodlu, ci hela Gwyddelig.
Dywedodd aelod o Warchodlu Iwerddon, Frankie Whelan ei fod yn ddiwrnod balch i filwyr o Iwerddon.
Bydd ymweliad yr Arlywydd yn cynnwys anerchiad i San Steffan a fydd yn canolbwyntio ar gyfraniad Gwyddelod i fywyd y DU, gyda thrafodaeth ar hanes cyffredin y ddwy wlad.