Mae’r heddlu sy’n ymchwilio i honiadau o droseddau rhyw wedi arestio dyn 73 oed.

Cafodd ei arestio yng ngogledd Llundain fel rhan o ymchwiliad Yewtree.

Mae Heddlu Scotland Yard wedi cadarnhau nad yw’n ymwneud yn uniongyrchol â’r honiadau yn erbyn y diweddar Jimmy Savile.