Arlywydd Iwerddon Michael D Higgins
Fe fydd ymweliad swyddogol cyntaf Arlywydd Iwerddon â Phrydain yn cychwyn heddiw.
Mae disgwyl i Michael D Higgins gwrdd â’r Frenhines yn ogystal â siarad ar lawr y Senedd – gan gyfeirio’n benodol at gyfraniad pobol Iwerddon tuag at economi Prydain.
Fe fydd yr ymweliad yn para pedwar diwrnod, ac mae Michael D Higgins yn gobeithio gwella’r berthynas rhwng Iwerddon a Phrydain.
‘Perthynas dda’
“Rydym wedi cyrraedd pwynt diddorol iawn mewn hanes, lle mae perthynas dda rhwng ein pobol,” meddai Michael D Higgins.
“Fy nod ar ddiwedd yr ymweliad yw i fwy o bobol ddod ynghyd i gofio a rhannu’r hanes, y sefyllfa bresennol a’r diwylliant.”
Daw’r ymweliad dair blynedd ar ôl i Frenhines Lloegr ymweld â Gweriniaeth Iwerddon am y tro cyntaf.
‘Ewyllys da’
Dywedodd Einion Dafydd, Cymrawd Dysgu yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Prifysgol Aberystwyth, bod yr ymweliad yn gam mawr ymlaen:
“Er bod y trafferthion yng Ngogledd Iwerddon yn parhau a bod nifer yn Iwerddon yn dal i deimlo dicter tuag at Brydain, mae’r ymweliad gan Arlywydd Iwerddon yn gam mawr ymlaen.
“Prif arwyddocâd y digwyddiad yw ei fod yn dangos pa mor bell mae’r ddwy wlad wedi dod dros yr ugain mlynedd diwethaf. Roedd ymweliad y Frenhines ag Iwerddon yn 2011 yn llwyddiant mawr, ac mae ymweliad Arlywydd Iwerddon, Michael D Higgins, a gwleidyddion Gwyddelig eraill yn arwydd o’r ewyllys da sy’n cael ei ddangos ar hyn o bryd.
“Mae hi’n syfrdanol meddwl fod Martin McGuiness wedi derbyn gwahoddiad gan y Frenhines i fynychu digwyddiad yn Windsor Castle, ond mae hyn i gyd yn brawf bod y ddwy ochr am weld y broses o gymodi yn parhau.”