Bob Crow
Bu miloedd o aelodau o undebau llafur yn talu teyrnged i Bob Crow heddiw wrth i angladd arweinydd undeb y rheilffyrdd gael ei gynnal yn Llundain.

Bu’r aelodau yn sefyll mewn rhes ar ochr y ffordd o’i gartref yn Woodford, yn nwyrain Llundain, i Fynwent Dinas Llundain ym Manor Park . Roedd y gwasanaeth ei hun yn breifat, ar gais teulu Bob Crow.

Cafodd arch arweinydd yr RMT, fu farw ar 11 Mawrth yn 52 oed,  ei gludo mewn cerbyd oedd yn cael ei dynnu gan geffylau – yn nhraddodiad yr East End.

Roedd y pedwar ceffyl yn gwisgo plu glas a gwyn, lliwiau Clwb Pêl-droed Millwall, yr oedd Bob Crow yn ei gefnogi.

Yn ogystal, roedd cannoedd o faneri undebau llafur gwahanol yn cael eu harddangos ar hyd y llwybr.

Cafodd posteri oedd yn dangos llun o Bob Crow hefyd eu harddangos mewn gorsafoedd trenau tanddaearol Llundain.

Dywedodd Paul Kenny, arweinydd undeb y GMB: “Roedd Bob yn ymladdwr hynod dros hawliau pobl sy’n gweithio, ond roedd hefyd yn angerddol am amddiffyn iechyd a diogelwch y cyhoedd – rhywbeth nad oedd erioed wedi cael y clod yr haeddai amdano.”

Roedd Bob Crow yn un o arweinwyr undeb mwyaf uchel eu proffil ei genhedlaeth a bydd teyrngedau hefyd yn cael eu rhoi iddo ar ddydd Calan Mai gyda digwyddiad arbennig sy’n cael ei gynllunio yn Llundain.